BBC i ddarlledu uchafbwyntiau pêl-droed

Gareth Bale ac Aaron Ramsey Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y gêm gyntaf i gael ei dangos fydd yr un gyfeillgar yn erbyn Bosnia-Hercegovina ar Awst 15

Bydd pêl-droed rhyngwladol Cymru yn dychwelyd i BBC Cymru am y tro cyntaf ers wyth mlynedd.

Mae'r Gorfforaeth wedi sicrhau cytundeb am ddwy flynedd i ddangos uchafbwyntiau holl gemau cartref Cymru, ac fe fydd y rhaglenni'n fyw ar wefan chwaraeon y BBC.

Y gêm gyntaf i gael ei dangos fydd yr un gyfeillgar yn erbyn Bosnia-Hercegovina ar Awst 15, ac yna gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 yn erbyn Croatia, Serbia, Yr Alban a Macedonia.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae chwaraeon yn un o'r pethau sy'n ein diffinio fel cenedl, ac rwyf wrth fy modd y bydd BBC Cymru yn dangos uchafbwyntiau teledu o gemau rhyngwladol cartref Cymru unwaith eto, ac felly'n ategu at ein darpariaeth radio ac arlein yn Gymraeg a Saesneg, ac yn rhoi'r gorau o chwaraeon yng Nghymru o'r gynulleidfa ar bob platfform."

Bydd gorsafoedd Radio Cymru a Radio Wales yn parhau i ddarlledu gemau cartref ac oddi-cartref Cymru.

'Cyffrous'

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford: "Mae'r Gymdeithas yn edrych ymlaen at berthynas weithio agos gyda BBC Cymru.

"Rydym yn cydnabod safon uchel darlledu chwaraeon ar radio a theledu'r BBC, ac rydym yn gwybod y bydd hyn yn fuddiol i bêl-droed Cymru ar bob lefel.

"Mae'n gyfnod cyffrous ar y cae ac oddi arno.

"Rydym ar fin dechrau ar ymgyrch gyda'r bwriad o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Brasil yn 2014, ac fe fydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn medru mwynhau'r daith gyda'r uchafbwyntiau ar deledu BBC Cymru a darllediadau byw ar y radio ac arlein."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.