Llawysgrif Hywel Dda
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Trafod cynnwys llawysgrif Hywel Dda

10 Gorffennaf 2012 Diweddarwyd 07:11 BST

Mae un o'r llawysgrifau cyntaf i gael ei hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, wedi cael ei phrynu am £541,250 mewn arwerthiant yn Llundain, a hynny gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Credir bod y llyfr o'r 14eg Ganrif, Cyfraith Hywel Dda, wedi cael ei gludo i America gan ymfudwyr o Gymru yn y 18fed Ganrif.

Nos Sul ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru, cafodd y cyflwynydd sgwrs am y llawysgrif gydag arbenigwraig ar hen gyfraith, yn enwedig Cyfraith Hywel Dda, o Adran y Gyfraith Prifysgol Bangor.

Bu Dr Sara Elin Roberts yn trin a thrafod cynnwys y llawysgrif, a'r rhai a allai fod yn ymgeisio i brynu'r gwaith.