Abertawe'n arwyddo dau chwaraewr

Chico Flores Image copyright futbolbalear
Image caption Bu "Chico" Flores yn chwarae dan Michael Laudrup yn Mallorca, Sbaen

Mae rheolwr clwb pêl-droed Abertawe, Michael Laudrup, wedi arwyddo'i chwaraewyr cyntaf ers cymryd yr awenau yn Stadiwm Liberty.

Bydd yr amddiffynnwr Jose Manuel Flores yn ymuno â'r Elyrch o glwb Genoa yn Yr Eidal am ffi cychwynnol o £2 miliwn.

Un arall fydd yn dod i'r Liberty yw Jonathan De Guzman, fydd yn ymuno ar fenthyg o glwb Villarreal yn Sbaen am flwyddyn.

Mae Flores, 25 oed ac sy'n cael ei adnabod fel Chico, wedi cwblhau prawf meddygol ddydd Llun, ac wedi arwyddo cytundeb fydd yn ei gadw yn Abertawe am dair blynedd.

Bydd rhaid i'r trosglwyddiad gael cymeradwyaeth ryngwladol cyn cael ei gadarnhau'n derfynol.

Dywedodd Flores: "Rwy'n hapus iawn i fod yma.

"Rwy'n gwybod fy mod yn ymuno gyda chlwb sydd wedi bod yn tyfu dros y blynyddoedd diweddar, ac sy'n uchelgeisiol i godi'n uwch fyth.

"Ar ôl chwarae yn La Liga a Serie A, rwy'n cael gwireddu breuddwyd i chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr - un o'r goreuon os nad y gorau yn y byd."

Chwaraeodd Flores i Laudrup pan oedd yntau'n reolwr clwb Mallorca yn Sbaen, ac fe gyfaddefodd Flores bod presenoldeb Laudrup yn Abertawe yn ffactor bwysig yn ei benderfyniad.

"Mae'n fy adnabod fel person ac fel chwaraewr," medd Flores.

"Rwy'n credu y bydd yn rheolwr da i Abertawe. Maen nhw'n chwarae'r un dull o bêl-droed ag y mae e'n hoffi, a fe yw'r person iawn i fynd â'r clwb yma ymlaen."

Image caption Cafodd Jonathan De Guzman ei eni yng Nghanada

Canada

Mae De Guzman hefyd yn un o gyn-chwaraewyr Mallorca o dan reolaeth Laudrup. Cafodd ei eni yng Nghanada, ond mae'n gymwys i chwarae i'r Iseldiroedd gan iddo ymuno gydag academi ieuenctid PSV Eindhoven.

Dywedodd: "Roeddwn i'n ymwybodol bod Abertawe'n dîm da, ond fe wnaethon nhw dynnu fy sylw go iawn pan guron nhw Manchester City.

"Rwy'n edrych ymlaen at yr her o chwarae yn yr Uwchgynghrair. Rwy'n hoffi ymosod o ganol cae, a gobeithio y byddaf yn cyfrannu goliau hefyd."