RSPB Cymru yn dathlu 20 mlynedd ar Ynys Dewi

Ynys Dewi Image copyright RSPB
Image caption Mae'r ynys yn gartref i fferm sy'n cynnwys 180 o ddefaid, pum ceffyl mynydd a 10 carw.

Eleni, mae elusen RSPB Cymru yn dathlu 20 mlynedd o reoli Ynys Dewi.

Fe wnaeth yr elusen brynu'r warchodfa oddi ar arfordir Penfro yn 1992.

I ddathlu'r achlysur bydd RSPB Cymru yn lansio Arddangosfa Gelf 20fed Penblwydd Ynys Dewi yng Nghanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhŷddewi ddydd Mercher.

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, cafwyd cyfnodau cofiadwy ar Ynys Dewi, megis ei dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn 1996, a phroject a lwyddodd i gael gwared â llygod ffyrnig o'r ynys yn 2000.

O ganlyniad, cafwyd cynnydd yn y nifer o adar drycin Manaw sy'n nythu mewn tyllau yn y ddaear, a'r cofnod cyntaf bod y pedryn drycin yn nythu yno.

'Ynys anhygoel'

Cafodd 700 o genau morlo eu geni yno'r llynedd ac mae'r ynys yn gartref i fferm sy'n cynnwys 180 o ddefaid, pum ceffyl mynydd a 10 carw.

Dechreuodd y wardeiniaid cyntaf i fyw yno'n llawn amser - y gŵr a gwraig Greg a Lisa Morgan - weithio ar yr ynys yn 2005 ac maen nhw'n parhau i reoli'r warchodfa ar ran ei bywyd gwyllt hyd heddiw.

Image copyright Rhian Field
Image caption Mae'r paentiad olew hwn o aderyn drycin y graig yn rhan o'r arddangosfa

"Roeddem wrth ein bodd pan gawsom y cyfle i fod yn wardeniaid ar Ynys Dewi ac mae'n anodd credu ein bod yma ers saith mlynedd," meddai Mr Morgan.

"Mae hi'n ynys anhygoel gyda llu o fywyd gwyllt a chynefinoedd -ac mae pob diwrnod yn hollol wahanol!"

Trefnir yr arddangosfa gyda chefnogaeth perchennog Oriel y Parc a Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sef Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd hefyd yn ei rheoli.

Mae'r Oriel hefyd yn gartref i Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.

Mae'r peintiadau olew sy'n darlunio bywyd gwyllt yr ynys, ei thirlun a'i hadeiladau wedi eu creu'n arbennig gan Rhian Field, sy'n gyn-Arlunydd Preswyl yn Oriel y Parc.

Cynhelir yr arddangosfa tan Orffennaf 31 yn y Tŵr a'r Caffi yn Oriel y Parc.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.