Cofio dinistrio pentre ger Prâg mewn amgueddfa yng Nghymru

Silent Village - Hawlfraint: Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru Image copyright Other
Image caption Pobl leol oedd yn actio'r 173 o ddynion gafodd eu dienyddio

Mae Amgueddfa'r Pwll Mawr yn dangos ffilm oedd yn ailgreu un o drychinebau'r Ail Ryfel Byd.

Saithdeg mlynedd yn ôl cafodd pentre' ei ddinistrio yn yr hen Tsiecoslofacia.

Ddydd Mercher am 1.30pm mae clwb ffilmiau'r amgueddfa'n dangos The Silent Village gafodd ei chynhyrchu yng Nghwm Tawe yr un flwyddyn â dinistr Lidice.

Gorchmynnodd Hitler i'r pentref gael ei ddinistrio a lledodd y newyddion am y digwyddiadau erchyll drwy Ewrop.

Hwn oedd dial y Natsïaid am lofruddiaeth Reichsprotektor Heydrich ym Mhrâg yn 1942.

173 o ddynion

Lladdwyd 173 o ddynion ac anfonwyd y gwragedd a'r plant i wersylloedd.

Ychydig fisoedd wedi i'r pentref gael ei chwalu aeth y cynhyrchydd Humphrey Jennings i bentre' Cwmgïedd ger Ystradgynlais.

Cydweithiodd yn agos gyda'r trigolion lleol.

Mewn golygfa mae pentrefwyr yn gorfod cofrestru eu henwau yn neuadd y pentref a defnyddiodd pob un o actorion Cwmgïedd eu henwau iawn.

Yn y ffilm, sy'n ailgreu'r dienyddio, mae pentrefwyr yn cyhoeddi eu propaganda tanddaearol yn yr iaith Gymraeg.

Glowyr

"Unodd cymunedau o bob cwr o'r byd wedi'r gyflafan i sicrhau na fyddai enw Lidice fyth yn cael ei anghofio," meddai Ceri Thompson, Curadur Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Ffederasiwn Glowyr De Cymru oedd yn cefnogi'r ffilm a glowyr lleol a'u teuluoedd oedd mwyafrif y cast.

"Yn y clwb ffilmiau rydyn ni'n dangos y ffilm ac yn cynnal trafodaeth," meddai Mr Thompson.

"Mae gwestai arbennig yn ymuno â ni, Arwel Michael oedd yn ddwy flwydd oed pan ymddangosodd yn y ffilm ac mae wedi cadw cysylltiad â sefydliad Lidice Shall Live drwy gydol ei fywyd."

Cafodd Lidice ger Prâg ei ailadeiladu, ac mae cofeb ac amgueddfa yn cynnwys lluniau o'r rhai a fu farw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.