Protest gan ffermwyr yn Llundain am ostwng pris llaeth

Ffatri laeth Image copyright Not Specified
Image caption Mae'r 'uwchgynhadledd llaeth' yn cael ei chynnal yn Westminster

Mae miloedd o ffermwyr llaeth wedi teithio i Lundain i brotestio yn erbyn y cwymp mewn prisiau llaeth.

Dywedodd yr undebau y byddai cynrychiolwyr ffermwyr Cymru yn y cyfarfod ddydd Mercher.

Mae'r "uwchgynhadledd llaeth" yn cael ei chynnal yn Westminster a chynrychiolwyr undebau'n cyfarfod â'r Gweinidog Amaethyddiaeth a Bwyd (Defra), Jim Paice.

Dileu

Y rheswm am y cyfarfod yw bod y cwmnïau gwerthu llaeth yn bwriadu gostwng y pris sy'n cael ei dalu i gynhyrchwyr llaeth o Awst 1 ymlaen.

Mae Robert Wiseman, Aria Foods a Dairy Crest yn bwriadu gostwng y pris o 1.7c y litr, 2c y litr, a 1.65c y litr.

Mae undeb ffermwyr yr NFU wedi galw am ddileu'r gostyngiadau ac wedi dweud y dylai'r sawl benderfynodd hyn ymddiswyddo.

Ysgwydd wrth ysgwydd

Dywedodd Dei Davies o Dreffynnon, Cadeirydd Pwyllgor Cynhyrchu Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, ei bod hi'n hanfodol bod y diwydiant llaeth yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â'i gilydd yn ystod y cyfnod allweddol.

"Mae costau porthiant i anifeiliaid wedi codi'n gyflym ac yn uwch nag erioed o'r blaen yn ogystal â'r toriadau yn y prisiau," meddai.

"Bydd y cyfarfod yn Llundain yn gyfle i'r diwydiant dynnu sylw'r cyhoedd a'r llywodraeth at fygythiad y toriadau diweddaraf yma i ddyfodol tymor hir y diwydiant llaeth yng Nghymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.