Agor swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Llundain
Mae Llywodraeth Cymru yn agor eu swyddfa llawn amser cyntaf yn Llundain i ddelio'n uniongyrchol â llysgenadaethau tramor a buddsoddwyr rhyngwladol.
Bwriad y swyddfa newydd ar Victoria Street yw bod yn gartref parhaol â ffocws cryfach i Lywodraeth Cymru gan alluogi Gweinidogion i barhau i feithrin cysylltiadau gyda busnesau, llysgenadaethau ac adrannau Llywodraeth y DU.
Hyd yma, mae Gweinidogion Cymru wedi talu rhent rhad am ddefnyddio cyfleusterau yn Nhŷ Gwydyr, cartref presennol Swyddfa Cymru.
Fe fydd y swyddfa yn hen bencadlys y Blaid Geidwadol.
Bydd tua saith o weithwyr llawn amser yn y swyddfa a fydd yn cael ei rentu ar gost o £270,000 y flwyddyn.
'Delfrydol'
"Mewn ychydig wythnosau, bydd llygaid y byd ar Lundain ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, felly mae hwn yn gyfle delfrydol i ni agor ein swyddfa newydd yn Llundain," meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
"Bydd y swyddfa yn ganolfan bwysig i Lywodraeth Cymru a busnesau Cymru er mwyn dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y ganolfan ariannol a masnachol fwyaf blaenllaw yn y byd.
"Rydyn ni'n wynebu marchnad anodd a chystadleuol, ond rydyn ni'n benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i gyfleu'r neges mai Cymru yw'r lle i fuddsoddi.
"Mae dros 1,000 o gwmnïau tramor yn gweithio yng Nghymru, gan gyflogi tua 140,000 o bobl.
"Rydyn ni am adeiladu ar hyn a pharhau i ddenu cwmnïau tramor i Gymru.
"Bydd swyddfa yng nghanol Llundain yn ein helpu i hyrwyddo Cymru i'r byd er mwyn hybu economi Cymru."
Daw agor y swyddfa wedi cyfres o ymweliadau tramor a theithiau masnach dan arweiniad Mr Jones i India, China a'r Unol Daleithiau.