Teulu Tom Maynard yn cefnogi sefydlu Cronfa Ymddiriedolaeth

Tom Maynard Image copyright PA
Image caption Symudodd Tom Maynard o Forgannwg i Surrey yn 2011

Mae teulu'r cricedwr Tom Maynard wedi cytuno i Gronfa Ymddiriedolaeth gael ei sefydlu er cof amdano.

Cafodd corff y chwaraewr 23 oed ei ddarganfod ar reilffordd yn Llundain ac roedd un o'r trenau tanddaearol wedi ei daro ger gorsaf Wimbledon Park ar Orffennaf 18.

Mae cwest i'w farwolaeth wedi agor a'i ohirio tan Fedi 24 eleni gan grwner Westminster.

Mynychodd dros 1,000 o bobl ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yr wythnos diwethaf.

'Cyfnod anodd iawn'

Bydd Ymddiriedolaeth Tom Maynard yn helpu datblygu cricedwyr sydd dan anfantais.

Bydd yr ymddiriedolaeth hefyd yn helpu pobl sy'n cymryd rhan mewn campau eraill gan gynnig hyfforddiant ac addysg, help ariannol i brynu dillad a chyfarpar ac ysgoloriaethau.

Gwnaeth Tom Maynard chwarae criced i Forgannwg a Surrey ac fe fydd yr ymddiriedolaeth yn cael ei chefnogi gan aelodau unigol o'r clybiau criced hynny a Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).

Dywedodd Martyn Ryan, ffrind i'r teulu ac un o'r ymddiriedolwyr: "Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r teulu ond bydd yr awgrym o greu ymddiriedolaeth er cof amdano yn helpu cadw enw Tom yn fyw ac yn helpu'r teulu.

"Ar hyn o bryd rydym yn ystyried helpu cricedwyr dan anfantais ond rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu helpu pobl ifanc mewn ffyrdd eraill wrth i'r syniad dyfu.

"Rydym yn hapus y bydd yr ymddiriedolaeth yn cynnwys pobl sy'n gysylltiedig â'r ddau glwb y gwnaeth Tom chwarae iddynt a'r PCA."

Cwest

Dywedodd cadeirydd Clwb Criced Surrey fod y clwb yn "hapus iawn" i gefnogi'r ymddiriedolaeth.

Mae Surrey wedi cyhoeddi bydd eu gêm 40 pelawd yn erbyn Morgannwg yn Yr Oval ar Awst 21 er cof am Mr Maynard.

Fe wnaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ddatgelu na fyddan nhw'n yn cynnal ymchwiliad i'w farwolaeth ar ddechrau mis Gorffennaf.

Roedd yr heddlu wedi cysylltu gyda'r Comisiwn am fod dyn o'r un disgrifiad â Mr Maynard wedi ei weld yn dianc o gar oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu yn fuan cyn i gorff Mr Maynard gael ei ganfod.

Dywedodd y crwner, Dr Shirley Radcliffe, bod 'na "ymchwiliad sylweddol" yn parhau i'w farwolaeth.

Gellir cysylltu â'r ymddiriedolaeth drwy Carston Accountants yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.