Cynghrair Europa: Gobaith i'r timau Cymreig

Andy Legg Image copyright SNS
Image caption Bydd tîm Andy Legg yn edrych ymlaen at her yr ail gymal yn Llanelli

Mae gan dimau o Gymru obaith gwirioneddol o ennill eu gemau nos Iau.

Cafwyd perfformiadau campus yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa yr wythnos diwethaf.

Llanelli v KuPS Kuopio

Fe fydd Parc Stebonheath yn Llanelli dan ei sang wrth i'r tîm cartref herio KuPS Kuopio o'r Ffindir.

Wythnos fe wnaeth Llanelli frwydro yn ôl o fynd dwy gôl i lawr o fewn 20 munud yn Kuopio ond fe wnaeth yr asgellwr profiadol Jason Bowen sgorio gôl oddi cartref allai fod yn hollbwysig dros Lanelli ychydig cyn yr egwyl i gadw'r gêm yn fyw.

Zimbru Chisinau v Bangor

Image caption Bydd Neville Powell yn gobeithio am berfformiad tebyg gan ei dîm nos Iau

Daeth Bangor o fewn modfeddi i sicrhau eu buddugoliaeth Ewropeaidd gyntaf ym Mangor am 51 mlynedd, ond di-sgôr oedd hi yn y diwedd yn erbyn Zimbru Chisinau o Foldova.

Fe wnaeth ymgais Chris Jones ar ran Bangor fwrw'r postyn, ac fe wnaeth yntau hefyd wastraffu cyfle munud olaf wrth benio yn syth at olwr Zimbru, Nicolae Calancea.

Ond pe bai Bangor yn sgorio mewn gêm gyfartal ym Moldova nos Iau fe fyddai hynny'n ddigon da iddynt gyrraedd yr ail rownd.

MyPa v Derwyddon Cefn

Image caption Bydd tîm Huw Griffiths yn gobeithio sgorio yn yr ail gymal yn y Ffindir

Wrth chwarae eu gêm gyntaf ar lefel Ewropeaidd, cafodd y Derwyddon gêm ddi-sgôr yn erbyn MyPa o'r Ffindir ar y Cae Ras yn Wrecsam yr wythnos diwethaf.

Y Derwyddon gafodd cyfle gorau'r hanner cyntaf wrth i beniad George Hughes fwrw'r postyn yn dilyn croesiad Rees Darlington.

Bydd tîm Huw Griffiths yn teithio i'r Ffindir ar gyfer yr ail gymal nos Iau gan wybod eu bod mewn sefyllfa debyg i Fangor.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.