Carwyn Jones: Lloegr 'heb lais' wrth drafod dyfodol y DG

Carwyn Jones Image copyright BBC news grab
Image caption Carwyn Jones: Ni ddylai'r Tŷ Cyffredin gael yr hawl i ddiddymu Cynulliad Cymru

Nid oes gan Loegr lais ei hun wrth drafod dyfodol y Deyrnas Gyfun, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Roedd Carwyn Jones yn rhoi tystiolaeth i Aelodau Seneddol a ddylai confensiwn fod ynglŷn â chyfansoddiad y DG.

Mae wedi dweud y byddai confensiwn cyfansoddiadol neu ddadl yn golygu y gallai Lloegr gyfrannu at y drafodaeth.

"Does dim dwywaith nad oes gan Loegr lais ei hun," meddai wrth Bwyllgor Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin yng Nghaerdydd.

'Yn debygol'

"Rwy'n credu ei bod yn debygol ... fod pobl yn deall bod y Prif Weinidog yn siarad ar ran Lloegr yn achos rhai materion.

"Ond rwy'n credu na allwn barhau â chyfansoddiad lle mae Senedd Llundain, os yw'n dymuno hynny, yn gallu diddymu'r gweinyddiaethau datganoledig o fewn misoedd."

Ychwanegodd nad oedd hyn yn iawn o ran democratiaeth ac nad oedd yn boblogaidd yng Nghymru na'r Alban.

Wedyn mae Mr Jones yn teithio i'r Senedd yn Llundain lle mae'n galw eto am gonfensiwn cyfansoddiadol.

Dywedodd Mr Jones ei fod am "ddiogelu'r DG" ond bod rhaid i'r cyfansoddiad "addasu".

'Pryder'

Ychwanegodd y dylai confensiwn cyfansoddiadol ddechrau cyn i'r Alban gynnal pleidlais annibyniaeth yn 2014.

"Fy mhryder mwyaf yw y bydd y DG yn dechrau colli rhai aelodau," meddai.

Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi ysgrifennu at Mr Jones a dweud yr hoffai fod yn rhan o gonfensiwn cyfansoddiadol.

Ond ychwanegodd na fyddai hyn yn bosib cyn i'r Alban gynnal pleidlais annibyniaeth.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, ei fod yn erbyn confensiwn.

"Yn fy marn, mae pobl yn ysu am i wleidyddion fwrw ymlaen a gwneud eu gwaith," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.