Bangor allan o Gynghrair Europa

Image caption Neville Powell ar ôl y cymal cyntaf yn nantporth

Zimbru Chisinau 2-1 CPD Dinas Bangor

Er gwaethaf ymdrech dda yn Moldova, mae Bangor allan o gynghrair Europa wedi iddyn nhw golli'r ail gymal o'r rownd rhagbrofol gyntaf yn erbyn Zimbru.

Di-sgôr oedd y cymal cyntaf yn Nantporth wythnos yn ôl.

Roedd amheuaeth a fyddai'r gêm yn cael ei chwarae nos Iau oherwydd storm o fellt a tharanau ym mhrifddinas Moldova.

Ac er i Fangor ddechrau'n dda, fe sgoriodd y tîm cartref ddwy gôl mewn tri munud wedi hanner awr o chwarae.

Oleg Molla sgoriodd y ddwy i Zimbru gan roi ei dîm mewn sefyllfa gref.

Ond roedd Bangor yn cael digon o'r chwarae ac yn creu cyfleoedd, a munud cyn yr egwyl fe fanteisiodd Marc Smyth ar un o'r cyfleoedd i sgorio i'r ymwelwyr.

Roedd amseru'n gôl yn bwysig i dîm Neville Powell gan rhoi llygedyn o obaith cyn yr ail hanner.

Pe bai Bangor wedi sgorio ail gôl, nhw fyddai wedi mynd ymlaen i'r rownd nesa oherwydd y rheol goliau oddi cartref, ac wedi awr o chwarae, un o'r enwau newydd yn y tîm ddaeth agosaf at wneud hynny pan darodd Mike Brownhill y postyn.

Daeth dau gyfle arall da i'r Dinasyddion, ond fe arweiniodd ergyd Alan Bull at arbediad campus gan Calancea yn y gôl i Zimbru, ac o'r gic gornel ddaeth o hynny, methodd Jamie Brewerton a tharo'r targed.