Y Derwyddon allan o Gynghrair Europa

Image copyright Huw Evans picture agency

MyPa 5-0 Derwyddon Cefn

Daeth antur Ewropeaidd Derwyddon Cefn i ben wrth iddyn nhw gael cweir yn y Ffindir.

Gall y Derwyddon fod yn falch iawn o gael gêm ddi-sgor yn y cymal cyntaf yn erbyn MyPa, ond roedden nhw'n amlwg yn dîm gwell ar eu tomen eu hunain.

Er hynny llwyddodd yr ymwelwyr i ddal am 25 munud cyn ildio'r gôl gyntaf, ond pan sgoriodd Nongotamba A Lody bryd hynny fe agorodd y llifddorau.

Cyn yr egwyl roedd hi'n dair, gyda Ville Saxman ac Olajide Williams yn ychwanegu'r ddwy arall.

O fewn dau funud i ddechrau'r ail hanner, fe ychwanegodd Riley O'Neill y bedwaredd.

Roedd ystadegau'r gêm yn frawychus i'r tîm o Gymru, gan iddyn nhw gael pum cynnig at y gôl wrth i'r ymwelwyr daro 37.

Daeth y bumed wrth i David Opoku sgorio i MyPa i gwblhau noson ddiflas i'w gwyr o ardal Wrecsam.