Siom i Warburton a Malcolm

Gareth Warbuton Image copyright Getty Images

Methodd dau Gymro fydd yn y Gemau Olympaidd a chreu argraff yn rasys athletau Crystal Palace ddydd Sadwrn.

Daeth Gareth Warburton yn wythfed yn y ras 800m wrth i Christian Malcolm orffen yn y seithfed safle yn y ras 200m.

Mae hi wedi bod yn wythnos gythryblus i Warburton - yn wreiddiol ni chafodd ei ddewis i Team GB ar gyfer Gemau Llundain, ond yna enillodd ei apêl yn erbyn y penderfyniad.

Fe gafodd Malcolm ei ddewis yn y tîm i redeg yn y 200m a thîm y ras gyfnewid 4X100m.

Roedd golwg flinedig ar Warburton yn yr 800m. Adam Kszczot o Wlad Pwyl enillodd y ras gydag amser o 1 fun 44.49, ac roedd amser Warburton o 1 fun 46.56 yn siomedig.

Felly hefyd Christian Malcolm yn y 200m. Enillydd y ras oedd Christophe Lemaitre o Ffrainc mewn 19.91 eiliad, ac roedd Malcolm bron eiliad y tu ôl iddo gydag amser o 20.71.