Ffilmiau ar S4C am Gymry amlwg

Gary Speed Image copyright PA
Image caption Y ffilm am Gary Speed fydd y portread teledu manwl cynta' sydd wedi cael cefnogaeth y teulu

Ar Faes yr Eisteddfod fe wnaeth S4C gyhoeddi manylion tair ffim newydd fydd i'w darlledu am fywyd tri Chymro go wahanol i'w gilydd.

Fe fydd y ffilmiau dogfen yn portreadu Gary Speed, Gerallt Lloyd Owen a Gruff Rhys.

Mae'r ffilmiau am y cyn-reolwr pêl-droed, y prifardd a'r cerddor ymhlith comisiynau cyntaf Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys newydd S4C.

Wrth gyhoeddi'r manylion fe ddatgelwyd y bydd un o'r rhaglenni dogfen yn bortread dadlennol o'r cyn-beldroediwr a hynny gan ei ffrind agos, John Hartson.

Dyma fydd y portread teledu manwl cyntaf ohono i'w gael ei ddarlledu gyda chydweithrediad llawn y teulu.

Bu farw Speed o dan amgylchiadau trasig ym mis Tachwedd y llynedd.

Cilmeri

"Fe fydd y ffilm ddogfen yn bwrw goleuni o'r newydd ar fywyd a gyrfa aruthrol Gary Speed," eglurodd Mr Iwan.

"Mae'n torri tir newydd gan y bydd teulu'r pêl-droediwr eiconig a rhai o'i ffrindiau agosa' yn cyfrannu.

"Mae hefyd yn gyfle i edrych ar ei gyfraniad i bêl-droed, Cymru a'r byd o safbwynt unigryw ei gyd-chwaraewr John Hartson, a fydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen am y tro cyntaf erioed."

Bwriad y ffilm bortread o'r llenor athrylithgar ac enigmatig Gerallt Lloyd Owen i'w darlledu ar Ddydd Gŵyl Dewi 2013.

Mae camerâu wedi bod yn ei ddilyn ers rhai misoedd.

Mae'n ffilm ddogfen ddadlennol am ddyn a ystyrir yn ŵr preifat iawn a bydd yn datgelu beth sydd wedi ysbrydoli cerddi fel Cilmeri, a ddisgrifir fel rhai o gerddi mwyaf yr iaith Gymraeg yn yr 20fed ganrif.

Bydd S4C hefyd yn darlledu ffilm ddogfen y canwr Gruff Rhys am y Wladfa ym Mhatagonia, Separado!

Mae o ar hyn o bryd yn America yn ffilmio dilyniant iddi ac mae S4C yn un o'r cyrff sydd yn ariannu'r dilyniant.

Bydoedd gwahanol

Bydd y darllediad teledu cyntaf o'r ffilm ddogfen Separado! yn un o uchafbwyntiau'r arlwy Nadolig ar S4C.

Mae'r ffilm yn dilyn canwr y Super Furry Animals i gael hyd i'w berthynas bell, y cerddor o Batagonia a'r gaucho Cymraeg lliwgar, René Griffiths.

Cafodd y ffilm ei saethu'n bennaf ar leoliad yn Yr Ariannin, gyda Gruff Rhys yn agor ein llygaid i agweddau gwahanol o hanes a bywydau pobl y Wladfa.

"Mae'r tair ffilm ddogfen yn ymdrin â chymeriadau a bydoedd gwahanol iawn i'w gilydd," eglurodd Mr Iwan.

"Ond yr hyn sy'n eu huno yw bod y bobl a bortreadir ynddynt wedi gwneud cyfraniad mawr i ddiwylliant poblogaidd ein bywyd cenedlaethol yng Nghymru."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.