Mwy na 500 yn angladd peilot yn Eglwys Gadeiriol Bangor

Awyr-lefftenant Hywel Poole Image copyright RAF
Image caption Roedd teulu'r Awyr-lefftenant Hywel Poole yn byw ym Mhorthaethwy

Mae angladd peilot o Gymru fu farw wedi damwain yn Yr Alban yn gynharach yn y mis wedi ei gynnal.

Roedd mwy na 500 yng ngwasanaeth milwrol llawn yr Awyr-lefftenant Hywel Tomos Poole o Borthaethwy yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Roedd degau o'i gyngydweithwyr o'r Alban a'r Fali yno i gofio amdano.

Fe gafodd Mr Poole, 28 oed, ei ladd pan darrodd dwy awyren tornado ei gilydd.

Roedd y ddwy awyren yn hedfan o Ganolfan Yr Awyrlu yn Lossiemouth.

Bu farw yn Ysbyty Raigmore Inverness.

Collodd dau arall eu bywydau yn y ddamwain i'r de o Wick ar arfordir Caithness yn ystod taith ymarfer.

Gweddillion

Mae'r gwaith yn parhau i ganfod gweddillion y ddwy awyren o wely'r môr.

Cafodd gweddillion yr Awyr-lefftenant Adam Sanders, 27 oed o Sir Gaerhirfryn, eu canfod ger safle'r ddamwain.

Mae'r awdurdodau yn y broses o adnabod gweddillion Arweinydd y Sgwadron Samuel Bailey, 36 oed o Nottingham.

Mae pedwerydd person mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Ymunodd Mr Poole â'r Awyrlu yn 2006.

Roedd yng Nghanolfan yr Awyrlu yn Y Fali cyn cael ei ddewis ar gyfer hyfforddiant Tornado a symud i Lossiemouth ym mis Tachwedd 2011.

'Talent'

"Wrth ddangos talent naturiol wrth hedfan y Tornado, fe sefydlodd ei hun yn gyflym fel peilot galluog a hyderus," meddai Pennaeth Sgwadron XV (Wrth Gefn), Jonathan Moreton.

"Wrth gyfuno hynny gyda'i hiwmor a chymeriad hoffus roedd yn aelod poblogaidd iawn o'r sgwadron."

Mae ymchwiliad trylwyr i achos y ddamwain wedi dechrau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.