Gobaith o hyd gan y Seintiau Newydd wedi gêm ddi-sgôr

Y Seintiau Newydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y Seintiau Newydd yn dathlu eu buddugoliaeth yng Nghwpan Cymru eleni

Y Seintiau Newydd 0-0 Helsingborgs

Mae gan Bencampwyr Uwchgynghrair Cymru obaith o barhau yng Nghynghrair Y Pencampwyr wedi gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn pencampwyr Sweden.

Roedd Y Seintiau Newydd yn croesawu Helsingborgs yn ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth yn Neuadd y Parc nos Fawrth.

Er nad oedd 'na gôl doedd hi ddim gêm ddiflas gyda chyfleodd i'r ddau dîm.

Roedd y canlyniad yn un pwysig i'r Seintiau a fydd yn teithio i Sweden ar gyfer yr ail gymal yr wythnos nesaf a'r gêm yn dal yn fyw.

Fe gychwynodd y tîm cartref ar dân gydag ergyd Chris Jones at y gôl, wnaeth daro'r postyn, o fewn y funud gyntaf.

Cafodd Y Seintiau sawl cyfle i fynd ar y blaen ac ennill y gêm.

Cyfle i'r ymwelwyr

Fe wnaeth prif sgoriwr y tîm cartref, Greg Draper golli cyfle euraidd wedi 20 munud ond roedd perfformiad y Seintiau yn un calonogol.

Roedd y tîm cartref llawer cryfach na'r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ond fe wnaeth Helsingborgs ddod nôl yn yr ail hanner.

Fe gawson nhw sawl cyfle yn yr ail hanner.

Er i'r bêl gyrraedd cefn y rhwyd i'r ymwelwyr roedd lwc gan Y Seintiau gan fod y dyfarnwr wedi gwrthod caniatau'r gôl.

Doedd taldra chwaraewyr yr ymwelwyr ddim yn fantais iddyn nhw yn y blwch gan ergydio dros y gôl fwy nag unwaith.

Wyth munud cyn diwedd y gêm fe gafwyd cyfle gwych i brif sgoriwr yr ymwelwyr, Rasmus Joensson, roi'r tîm ar y blaen ond roedd arbediad gôl-geidwad Y Seintiau, Paul Harrison, yn wych.

Er na wnaeth Y Seintiau ennill fe fyddan nhw'n parhau yn hyderus wrth deithio i Sweden a gobeithio manteisio ar y goliau oddi cartref.

Y Seintiau Newydd yw cynrychiolwyr olaf Cymru yn Ewrop eleni wedi i Lanelli, Bangor a Derwyddon Cefn golli yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa yr wythnos ddiwethaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.