Pysgotwyr yn codi llais

Bywyd Môr Image copyright Other
Image caption Mae dros draean o ddyfroedd Cymru wedi'u dynodi'n ardaloedd gwarchod

Mae rhai o bysgotwyr Cymru wedi bod yng Nghaerdydd i wrthwynebu'r syniad o sefydlu parthau morol o gwmpas yr arfordir.

Yn ôl cynlluniau, dyma fydd yr ardaloedd ble y byddai pysgota a gweithgareddau eraill yn cael eu gwahardd.

Mae 'na broses ymgynghori i sefydlu'r parthau yn digwydd ar hyn o bryd.

Fe wnaeth y pysgotwyr gyflwyno adroddiad ar ran Cymdeithas Pysgota Cymru i'r gweinidog amgylchedd John Griffiths gan gynnig eu hargymhellion eu hunain ynglŷn â sut i warchod y moroedd o gwmpas Cymru.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn rhoi'r cyfle i bobl sy'n defnyddio'r môr a chymunedau arfordirol rannu eu barn ar leoliadau posib a gynigir ar gyfer ardaloedd gwarchodedig newydd a elwir Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru.

Disgwylir y bydd rhagor o ymgynghori drwy gydol 2013, ac mae Gweinidogion Cymru i fod i ddynodi safleoedd yng ngwanwyn 2014.

Rheoli annigonol

Image copyright Iolo ap Dafydd
Image caption Dywed Colin Evans mai'r pysgotwyr sy'n gwybod sut i warchod y môr

Mae dros 36% o ddyfroedd tiriogaethol Cymru wedi'u dynodi'n Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar hyn o bryd.

Ond mae rheoli annigonol yn golygu bod nifer o'r ardaloedd pwysig hyn yn methu â gwarchod y cynefinoedd a'r rhywogaethau y cynlluniwyd iddyn nhw eu diogelu.

Bydd Parthau Cadwraeth Morol yn ychwanegu haen ychwanegol o warchodaeth i ddyfroedd Cymru, gan ddarparu'r safleoedd gwarchodedig iawn cyntaf lle na chaniateir unrhyw weithgareddau niweidiol.

Yn ôl y pysgotwr cimychiaid Colin Evans, os nad yw'n medru pysgota yn y dyfodol, mae'n annhebyg o barhau gydag agweddau eraill ei waith, fel cludo twristiaid a chludo cyflenwadau i'r wyth o bobl sy'n byw ar Ynys Enlli.

"Ry' ni gyd o blaid gwarchod ardaloedd morol," meddai.

"Ond ein dadl yw mai pysgotwyr fel ni yw'r rhai sydd â hanes o gadwraeth yn yr ardal hon."

Dywedodd na ddylid cael ardaloedd gyda rheol "dim cymryd", sef rheol yn golygu y gallwch bysgota ond bod yn rhaid rhoi'r pysgod yn ôl yn y môr.

"Dyw'r Gymdeithas Cadwraeth Forol ddim yn meddwl amdanom ni", ychwanegodd Mr Evans.

Ond mae grŵp o bum sefydliad amgylcheddol yn croesawu cynnydd wrth wella'r ffordd y gwarchodir y môr o gwmpas Cymru.

'Cam cyntaf'

Dywedodd Dr Iwan Ball, Cadeirydd Gweithgor Morol Cyswllt Amgylchedd Cymru: "Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru'n croesawu'r ymgynghoriad fel cam cyntaf i ganiatáu i foroedd Cymru wrthdroi'r dirywiad o ran ein cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr.

"Ond rydym wedi'n siomi gan y diffyg uchelgais sy'n cael ei ddangos eisoes gan Lywodraeth Cymru wrth gyfyngu ar faint a nifer yr ardaloedd gwarchodedig hyn.

"Rydym hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n bodoli eisoes yng Nghymru eu rheoli'n well yn y dyfodol, gan eu bod mewn perygl o beidio â gwarchod y bywyd gwyllt morol toreithiog a'r amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd maen nhw'n ceisio eu gwarchod."

£2.5 biliwn

Mae'r môr o gwmpas Cymru'n cyfrannu oddeutu £2.5 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn - ac mae cyfran fawr o hyn yn dod o dwristiaeth.

Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn galw ar y cyhoedd a phobl sy'n defnyddio'r môr i ddangos eu bod yn cefnogi Ardaloedd Morol Gwarchodedig drwy ymweld â'r wefan berthnasol.

Mae'r Ymgyrch Forol yn cael ei rhedeg gan Weithgor Morol y Cyswllt, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Ymddiriedolaethau Natur Cymru, WWF Cymru, RSPB Cymru, Cymdeithas Cadwraeth y Môr a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.