Gwasanaethau brys yn cynnig cymorth i aelod o dancer nwy

Mae timau achub wedi eu galw i dancer nwy oddi ar arfordir Ynys Môn wedi i uwch swyddog gael ei tharo'n wael.

Cafodd bad achub Caergybi eu galw toc wedi 7am at dancer Nancy Knutson, sydd bedair milltir i'r gogledd o gaergybi.

Mae aelodau o'r RNLI wedi llwyddo i fynd ar fwrdd y tancer a chynnig cymorth cyntaf i'r swyddog benywaidd.

Mae gwylwyr y glannau yn ystyried a fydd rhaid defnyddio'r hofrennydd i gludo'r swyddog i'r ysbyty.

Mae'r tancer ar y ffordd i Fôr y Gogledd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.