Gweithwyr Remploy
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder un o weithwyr Remploy

19 Gorffennaf 2012 Diweddarwyd 11:19 BST

Mae arweinwyr undeb Unite yn disgwyl i 250 o weithwyr Remploy gymryd rhan mewn streic 24 awr.

Maen nhw'n anfodlon gyda chynlluniau Llywodraeth San Steffan i gau 54 o'u ffatrioedd, gan gynnwys saith yma yng Nghymru.

Bu'r Post Cyntaf yn siarad gydag Alex Morgan sy'n gweithio yn Remploy Baglan.

Dyw'r ffatri honno ddim ar y rhestr cau presennol, ond dyw hynny ddim yn atal gofid am y dyfodol.