Arddangosfa newydd Doctor Who yn hwb i Gaerdydd

Rory Williams (Arthur Darvill), Amy Pond (Karen Gillan) a'r Doctor (Matt Smith) Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd eitemau newydd o'r sioe yn cael eu hychwanegu dros gyfnod at yr arddangosfa

Mae arddangosfa newydd Doctor Who wedi agor yng Nghaerdydd.

Y gobaith yw denu hyd at 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae'r arddangosfa ryngweithiol yn cynnwys setiau sydd wedi eu hadeiladu'n arbennig ar ei chyfer.

Mae wedi ei lleoli mewn adeilad 3,000 metr sgwâr ym Mhorth Teigr, drws nesa' i stiwdios Porth y Rhath y BBC, lle mae Doctor Who, Casualty a Pobol y Cwm yn cael eu ffilmio.

Yn y gorffennol mae arddangosfa dros dro wedi ymweld â'r ddinas, ond mae'r un diweddaraf mewn adeilad newydd sydd wedi ei adeiladu gan gyngor Caerdydd.

Mae 'na ffilm arbennig gyda'r actor Matt Smith ymhlith yr atyniadau.

Mae yno replica o'r Tardis.

Ymwelwyr

Y disgwyl yw i ymwelwyr wario tua dwy awr yn yr arddangosfa, gyda'r hanner awr gyntaf yn rhan o bennod o'r gyfres.

Dywedodd Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, ei bod yn gamp ardderchog i Gaerdydd ac i broffil Cymru'n rhyngwladol.

"Mae disgwyl i'r arddangosfa unigryw yma ddenu 250,000 o ymwelwyr i Gaerdydd a hybu ein diwydiant twristiaeth," meddai.

"Mae'r diwydiant eisoes werth dros £4 biliwn i'r economi bob blwyddyn."

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Disgwylir i ymwelwyr ddod o wledydd tramor i weld yr arddangosfa

Dywedodd Philip Murphy, rheolwr digwyddiadau byd-eang y BBC, bod trefnu popeth wedi bod yn "dasg anferth" ond bod popeth yn barod.

"Mae hyn wedi creu swyddi hefyd, gan fod pobl leol wedi cael eu cyflogi i baratoi'r arddangosfa yn ogystal â chael effaith ar y diwydiant twristiaeth hefyd.

"Rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn rhan bwysig o'r llwybr twristiaeth yng Nghaerdydd.

"Bydd yr arddangosfa'n newid dros amser gydag eitemau a gwisgoedd sydd wedi ymddangos yn y rhaglen yn cael eu hychwanegu."

Y flwyddyn nesaf fe fydd hi'n 50 mlynedd ers i'r rhaglen gyntaf gael ei dangos ar y teledu.

Fe fydd eitemau o "archif" y gyfres hefyd i'w gweld yn yr arddangosfa.

"Fy hoff gyfnod yw'r 1970au a'r 1980au oherwydd dyna pryd y dechreuais i ei wylio," meddai Mr Murphy.

"Dwi dal yn teimlo'n gynhyrfus nawr pan fyddai'n clywed cerddoriaeth y rhaglen yn dechrau.

"Mae ganddo apêl emosiynol."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.