Ymchwiliad yn dilyn damwain Chinook ger Saundersfoot

Mae'r Llu Awyr yn ymchwilio wedi i hofrennydd Chinook daro llinellau trydan yn Sir Benfro gan orfodi'r peilot i'w glanio mewn cae.

Bu 500 o dai heb eu cyflenwad trydan am gyfnod yn dilyn y digwyddiad rhwng Saundersfoot a Llanrhath brynhawn dydd Mercher.

Chafodd dim un o'r chwe theithiwr ac aelodau criw'r hofrennydd eu hanafu ond fe gafodd y Chinook ei ddifrodi yn ôl y Llu Awyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Gallwn gadarnhau y bu rhaid i hofrennydd Chinook lanio mewn cae yn dilyn digwyddiad.

"Rydym ar ddeall ni chafodd dim un o'r chwe theithiwr ac aelodau'r criw eu hanafu ond cafodd yr awyren ei ddifrodi.

"Mae tîm o arbenigwyr technegol wedi eu hanfon i asesu'r hofrennydd a'i gasglu".

Mae hofrenyddion Chinook yn cael eu defnyddio gan y Fyddin Brydeinig yn Afghanistan ac mae gan bob un lle ar gyfer 54 o filwyr neu 11,340 cilogram o nwyddau.

Gall yr hofrennydd deithio hyd at 185 m.y.a.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.