Diwrnod anodd i Forgannwg yn erbyn Caint

James Harris
Image caption Yn achosi problemau: James Harris

Cafodd Morgannwg ddiwrnod cyntaf anodd yn eu gêm yn erbyn Caint yng Nghaergaint yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Iau.

Erbyn diwedd y dydd roedd y tîm cartref wedi sgorio 310 am bedair wiced gan gynnwys cant yr un i fatiwr prawf India'r Gorllewin Brendan Nash a Darren Stevens.

Achosodd James Harris broblemau i agorwyr y tîm cartref cyn iddo gipio wiced cyn-fatiwr Lloegr a chapten Caint, Robert Key, gafodd ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace am 14 rhediad.

Collodd Caint eu hail wiced ar ôl sgorio 49 pan lwyddodd Harris a Wallace i ddisodli Ben Harmison am 12 rhediad.

Coes o flaen wiced

Ond batiodd yr agorwr Sam Northeast yn gadarn cyn i Harris ei faglu coes o flaen wiced am 52 rhediad.

Cipiodd Harris ei bedwaredd wiced pan gafodd cyn-fatiwr Morgannwg Michael Powell ei ddal gan Wallace oddi ar ei bêl gyntaf.

Ond hon oedd wiced olaf Morgannwg wrth i Nash (110 heb fod allan) a Stevens (120 heb fod allan) ychwanegu 200 am y pumed wiced.

Cipiodd Harris ei bedair wiced am 80 rhediad oddi ar 22 pelawd.

Enillodd Morgannwg eu gêm gyntaf yn yr Ail Adran eleni wedi iddyn nhw guro Sir Northampton ddydd Mawrth.

Ond maen nhw dal ar waelod yr adran.

Caint v Morgannwg (Diwrnod cyntaf)

Caint: (Batiad cyntaf):310-4

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.