Chwedl yn ysbrydoli cwrw newydd

Robert Price o Cadwyn Clwyd ac Ynyr Jeffreys-Evans o Fragdy Llangollen Image copyright Ceidiog Communications
Image caption Syniad y prif fragwr, Ynyr Jeffreys-Evans, oedd y cwrw newydd

Mae Bragdy Llangollen wedi creu cwrw newydd sydd wedi ei ysbrydoli gan chwedl leol.

Enw'r cwrw newydd yw 'Holy Grail Ale' a chafodd y bragwr Ynyr Jeffreys-Evans ei ysbrydoli i'w greu gan stori sydd yn cysylltu'r Greal Sanctaidd ag ardal Llangollen.

Yn ôl y chwedl, Castell Dinas Brân ger Llangollen yw man gorffwys olaf y Greal Sanctaidd.

Ceir hefyd chwedl bod yna dwnnel yn cysylltu'r castell i Abaty Glyn y Groes islaw.

'Chwedl yn parhau'

Dywedodd Roger Farnham, prif guradur yr Abaty, sydd yng ngofal Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru:

"Rwyf wrth fy modd gyda'r syniad o'r chwedl yma'n parhau ar ffurf cwrw newydd.

"Byddai'r mynachod oedd yn byw yma yn yfed wyth peint y diwrnod oherwydd roeddent yn drwgdybio'r dŵr lleol.

"Dwi'n meddwl y byddent wedi cymeradwyo'r cwrw newydd oherwydd byddai bragdy ganddynt yma, drws nesa i'r eglwys."

Mae Bragdy Llangollen yn gobeithio cynyddu cynhyrchiad eleni a bydd y cwrw newydd yn rhan bwysig o'i gynlluniau.

'Traddodiadol'

Dywedodd Ynyr Jeffreys-Evans: "Mae ein cwrw yn draddodiadol iawn ond mae Holy Grail Ale braidd yn wahanol.

"Mae'n ysgafnach gyda blas sitrws, cwrw braf iawn."

Bydd y cwrw yn cael ei lansio'n swyddogol yn ystod Gŵyl Fwyd Llangollen ym mis Hydref.

Bydd ymysg nifer o ddiodydd lleol fydd ar gael yn ystod yr ŵyl flynyddol sydd yn cael ei gefnogi gan yr asiantaeth datblygu wledig, Cadwyn Clwyd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.