Llofruddiaeth: Cadw yn y ddalfa

Mae dyn 57 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron ynadon Llandudno ddydd Sadwrn wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig.

Daethpwyd o hyd i gorff Barbara Yates, 49 oed, yng nghefn cerbyd yn ardal Llanelwy, Sir Ddinbych nos Fercher.

Cafodd John Yates o Warrington ei gyhuddo o'i llofruddio.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun.

Mae Heddluoedd Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn ymchwilio ar y cyd i'r achos.

Straeon perthnasol