Merch wedi marw a saith wedi eu hanafu ym mhentref Gwespyr

Safle'r ddamwain
Image caption Cafodd y ffordd ei chau er mwyn galluogi hofrennydd ac ambiwlansys i gyrraedd

Mae merch wedi marw a saith o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn damwain yn Sir y Fflint.

Roedd dau gar yn y ddamwain ar yr A548 ym mhentref Gwespyr, ger Treffynnon tua 12.00pm ddydd Sul.

Dywedodd yr heddlu bod cyfanswm o naw o bobl yn y ddau gar.

Cafodd y ffordd ei chau er mwyn galluogi hofrennydd ac ambiwlansys i gyrraedd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.