Cymal o'r Tour de France yng Nghymru?

Bradley Wiggins, cymal 11, 2012 Image copyright Getty Images
Image caption Mae buddugoliaeth hanesyddol Bradley Wiggins yn debygol o godi proffil beicio yn y DU

Mae 'na alw am gynnal un o gymalau'r Tour de France yng Nghymru, wedi i Brydeiniwr ennill y ras enwog am y tro cynta' erioed ddydd Sul.

Wrth longyfarch Bradley Wiggins, dywedodd Aelod Cynulliad Democratiaid Rhyddfrydol De Orllewin Cymru, Peter Black, fod y fuddugoliaeth wedi codi proffil beicio yn y DU ac y gallai hynny olygu mwy o frwydr i wahodd y ras i Gymru.

"Mae Cymru wedi'i lleoli'n berffaith i gynnal cymal o'r Tour de France, o Eryri, Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria, mae gan Gymru'r gallu i gynnig cefndir anhygoel a heriol i athletwyr gorau'r byd," meddai llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar dreftadaeth.

"Rydym hefyd wedi gweld y cysylltiadau chwaraeon agos a ddatblygodd rhwng Cymru a Ffrainc adeg Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007 a gafodd ei gynnal yn Ffrainc, ond gyda phedair gêm yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys rownd yr wyth ola' rhwng Ffrainc a Seland Newydd."

Hybu'r economi

Yn sgil cynnal y gemau hyn, a Chwpan Ryder yng Nghasnewydd, dywedodd Mr Black fod Cymru wedi profi bod ganddi'r gallu a'r isadeiledd i gynnal digwyddiadau chwaraeon o safon byd eang.

"Byddai gweld y Tour de France yn dod i Gymru yn rhoi i'w wlad y llwyfan rhyngwladol, gan ddenu mwy o ymwelwyr i'r wlad a hybu'r refeniw twristiaeth yn enwedig i gwmnïau annibynnol.

"Amcangyfrifir y gallai economi Cymru elwa o hyd at £115 miliwn petai hyn yn digwydd," meddai.

Ychwanegodd y gallai hefyd annog rhagor o bobl i wneud ymarfer corff.

Fe seliodd Wiggins fuddugoliaeth gynta' Prydain yn y Tour de France ddydd Sul, wrth orffen dri munud ac 21 eiliad cyn ei gyd-aelod o dîm Sky, Chris Froome, gyda Vincenzo Nibali o'r Eidal yn drydydd.

Mae cymalau o'r Tour de France wedi'u cynnal y tu allan i Ffrainc yn y gorffennol.

Yn 2007, llwyddodd Maer Llundain i ddenu'r ras i'r brifddinas honno.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.