Diwedd y frwydr i achub eglwys yn Y Rhondda

Eglwys Yr Holl Saint, Maerdy Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Ers iddi gau'r haf diwethaf mae tua 20 o bobl wedi bod yn addoli yn yr eglwys heb bresenoldeb clerigwr

Mae selogion eglwys yn Y Rhondda, sydd wedi bod yn ceisio ei chadw yn agored, wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w brwydr.

Cafodd Eglwys Yr Holl Saint, Maerdy, ei chau'r haf diwethaf ac roedd angen cannoedd o filoedd o bunnau i adfer yr adeilad.

Mae pobl wedi addoli yno ers 1885.

Roedd ymgyrchwyr wedi cael cynnig i brynu'r adeilad am £1,000 yn hytrach na'i gwerth marchnad o £25,000.

Dywedodd cyfeillion yr eglwys nad oedden nhw'n gallu derbyn "prydles" ar adeilad yr eglwys ac nad oedd opsiwn ond dod â'u hymgyrch i ben.

Mewn datganiad, dywedon nhw: "Rydym yn dal i gredu bod ein cymuned wir angen cefnogaeth ysbrydol ac roedden ni wedi gobeithio gweithio mewn partneriaeth â'r Eglwys yng Nghymru i adfer ac adnewyddu'r eglwys er mwyn rhoi'r gofal a'r gefnogaeth i bobl Maerdy.

"Ond roedd yr opsiynau a gynigwyd i ni'n gyfyngedig a doedd dim cysylltiad â'r Eglwys, y corff yr oedden ni'n ceisio ei gadw wrth galon cymuned Maerdy."

'Siom'

Cafodd siop ail-law ei hagor yn y pentre' i geisio codi arian i dalu am atgyweirio'r eglwys ac mae'r cyfeillion yn gobeithio y bydd modd parhau â mentrau o'r fath.

Dywedon nhw hefyd y bydden nhw'n "parhau i helpu i gwrdd ag anghenion ysbrydol a chymdeithasol Maerdy pryd bynnag a phle bynnag y bo modd".

"Ond mae'n wir dweud", meddai'r datganiad, "fod hierarchaeth yr Eglwys yng Nghymru wedi'n siomi ni am nad oes yna gefnogaeth mwyach i'r gwaith pwysig mewn ardaloedd difreintiedig fel Maerdy.

"Mae'n drueni fod cymaint o bobl wedi brwydro, cynllunio a threfnu ... heb unrhyw obaith o ganlyniad llwyddiannus.

"Ac mae'n codi cwestiynau am ddidwylledd yr Eglwys yng Nghymru."

Ddim yn ymwybodol

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, doedden nhw ddim yn ymwybodol o benderfyniad cyfeillion yr eglwys.

Dywedodd llefarydd: "Roedd cynrychiolydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru, sy'n berchen ar Eglwys Yr Holl Saint, wedi anfon prydles ddrafft at y cyfeillion ar Fai 11 ac rydym yn dal i ddisgwyl am ymateb.

"Byddwn yn barod i gwrdd â nhw a thrafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.

"Byddai prydlesu'r adeilad am flwyddyn wedi rhoi cyfle i'r cyfeillion weld a oedden nhw'n gallu llunio cynllun busnes iawn, ymchwilio i grantiau a chodi'r arian angenrheidiol i adfer yr adeilad yn fan addoli.

'Parhau'

"Unwaith y byddai'r Archesgob yn hapus fod dyfodol yr adeilad yn ddiogel a bod digon o arian wedi'i godi, byddai addoliad wedi gallu parhau yno.

"Mae'n bechod fod Cyfeillion Yr Holl Saint wedi penderfynu peidio â derbyn y cynnig ond mae'n ddealladwy o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

"Fe wnaeth y Cyngor Plwyf Eglwysig yr un penderfyniad dros flwyddyn yn ôl wrth gau'r eglwys.

"Roedden nhw'n pryderu ei fod yn faich ariannol annheg ar y gymuned."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.