Apêl am wybodaeth wedi ymosodiad yng Nghwmafan

Mae dyn 37 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys wedi ymosodiad yng Nghwmafan ger Port Talbot.

Cafodd y dyn oed ei bwnio yn ei ben yn ystod yr ymosodiad yn Cunard Row ger gwesty Tŷ Cwmafan.

Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ac yn cael ei gadw yng Ngorsaf Heddlu Castell-nedd.

Roedd yr ymosodiad am 10.55pm nos Lun.

'Dim cymhelliad'

"Mae'n ymddangos nad oedd yna gymhelliad i'r ymosodiad," meddai'r Ditectif Arolygydd David Hough.

"Cafodd anafiadau difrifol i'w ben.

"Pan ddigwyddodd yr ymosodiad rydym yn credu bod nifer o bobl yn yr ardal ar y pryd ...

"Dwi'n apelio at unrhyw un â gwybodaeth neu a welodd yr ymosodiad i gysylltu gyda ni."

Y rhif yw 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.