Charlotte Church yn derbyn iawndal wedi adroddiad papur newydd

Charlotte Church Image copyright Reuters
Image caption Mae Charlotte Church wedi cyhuddo'r wasg gan ddweud bod y 'diwydiant sydd allan o reolaeth'

Mae Charlotte Church wedi derbyn iawndal sylweddol am stori ymddangosodd mewn papur Sul.

Derbyniodd y gantores 25 oed yr arian gan Mirror Group Newspapers Limited.

Dydi union swm yr iawndal ddim wedi ei ddatgelu.

Roedd y stori amdani ym mhapur y People yn honni ei bod hi wedi gofyn i'w chariad Jonathon Powell i'w phriodi tra ar noson allan yng Nghaerdydd.

Ond roedd hi'n perfformio mewn cyngerdd ym Mhentyrch ar gyrion Caerdydd ar y pryd.

Mae'r grŵp wedi ymddiheuro am y stori.

Mae Church hefyd wedi beirniadu "diwydiant sydd allan o reolaeth".

Wedi i'r stori ymddangos yn y wasg, fe wnaeth Church wadu'r adroddiadau gan ddweud: "Dwi ddim wedi gofyn i fy nghariad fy mhriodi, yn sobr nac yn feddw".

Eglurodd bod yr erthygl "yn embaras" iddi hi, ei theulu a'i ffrindiau.

"Doeddwn i ddim yn y dafarn dan sylw.

"Roeddwn i yn perfformio mewn lleoliad gwahanol."

Mae Church wedi derbyn cais arall am iawndal yn erbyn y News Group Newspapers ar ôl achos o hacio ffôn pan oedd hi'n 16 oed.

Straeon perthnasol