Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Abertawe

  • 26 Gorffennaf 2012

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff dyn 48 oed gael ei ganfod mewn tŷ yn Abertawe.

Cafodd heddlu arfog eu galw wedi digwyddiad yn Villa Terrace yn ardal Treboeth y ddinas toc cyn 7pm nos Fercher.

Mae dyn 33 oed o Bort Talbot wedi cael ei arestio ac mae'n cael ei holi gan yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r tŷ ar ôl i gorff dyn gael ei ganfod.

"Cafodd heddlu arfog eu galw er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd," ychwanegodd.

Mae'r Heddlu wedi sefydlu ystafell digwyddiad yn ardal Y Cocyd o'r ddinas.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 01792 562732 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555 111.