Arddangosfa i gofio cystadleuydd Gemau Olympaidd

Castell Y Waun Image copyright Other
Image caption Roedd Yr Arglwydd Tommy Howard de Walden yn byw yng Nghastell y Waun rhwng y ddau ryfel byd

Bydd arddangosfa yng Nghastell Y Waun yn edrych ar fywyd Yr Arglwydd Thomas Howard de Walden a fu'n byw yn y castell rhwng y ddau ryfel byd.

Bu'r Arglwydd de Walden yn gefnogwr brwdfrydig o sefydliadau diwylliannol Cymru yn ystod ei amser yno.

Bydd ei effaith ar Gymru, y diwylliannau a'r castell ei hun yn cael eu dathlu yn yr arddangosfa.

Roedd o hefyd yn gystadleuydd yng Ngemau Olympaidd cyntaf Prydain yn 1908.

Cymerodd ran mewn cystadleuaeth rasio cwch modur, yr unig un erioed y mae'r Gemau wedi ei chynnal.

"Mae'n anhygoel cymaint lwyddodd Yr Arglwydd de Walden ei wneud yn ystod ei fywyd," meddai Carolyn Latham, o Gastell Y Waun, ger Wrecsam.

'Gemau gwahanol'

"Roedd yn ymwneud gyda chymaint o bethau ac mae wedi bod yn gyffrous i ddysgu mwy am ei hanes Olympaidd wrth i'r Gemau cael eu cynnal ym Mhrydain unwaith eto."

Image copyright National Trust
Image caption Roedd Yr Arglwydd de Walden wedi cystadlu yng ngemau Olympaidd 1908

Roedd Gemau Olympaidd 1908 yn wahanol iawn i gemau eleni.

Yn 1908 roedd y Gemau'n para am 188 diwrnod.

Mae'r Gemau modern yn para am 17 diwrnod.

Eleni bydd dros 10,000 o athletwyr yn cystadlu tra yn 1908 tua 2,000 oedd yn cymryd rhan, a dim ond 37 ohonyn nhw yn ferched.

Yn 2012 mae 204 gwlad â thimau yn y Gemau, i gymharu â 22 gwlad yn 1908.

Bydd yr arddangosfa am fywyd Yr Arglwydd de Waldon yn agor ym mis Medi.

Ymhlith y deunydd fydd yn rhan o'r arddangosfa bydd cadair Eisteddfodol, cleddyf Cymreig a llun gan y darlunydd Augustus John.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.