Carcharu gyrrwr bws wedi marwolaeth dyn ar draffordd

Safle'r ddamwain ar Ragfyr 12, 2010
Image caption Safle'r ddamwain ar Ragfyr 12, 2010

Mae gyrrwr bws o Gymru wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd am achosi marwolaeth dyn drwy yrru'n beryglus ar draffordd yr M5.

Roedd Daniel Parr, 24 oed o'r Fenni, wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol.

Fe gafodd Raymond Vaughan ei ladd ar Ragfyr 12, 2010.

Roedd Parr yn gyrru bws Megabus o Gaerdydd i Leeds pan fu mewn gwrthdrawiad â lori fawr a dau gar ar y draffordd ger Tewkesbury.

Gwadu

Roedd Mr Vaughan, 30 oed o Birmingham, yn gyrru un o'r ceir.

Yn wreiddiol, roedd Parr wedi gwadu'r cyhuddiad ond newidiodd ei ble.

Mae Parr wedi ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.

Fe fydd rhaid iddo sefyll prawf gyrru estynedig cyn gyrru unwaith eto.

Straeon perthnasol