Brasil 1-0 Seland Newydd (Pêl-droed Merched)

Cristiane
Image caption Cristiane (ar y dde) rwydodd yn hwyr yn yr ail hanner wrth i Frasil ennill

Mae Tîm Pêl-droed Merched Brasil wedi cyrraedd y chwarteri wedi iddyn nhw guro Seland Newydd 1-0 yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

Y sgôr ar yr egwyl oedd 0-0 cyn i Cristiane rwydo'n hwyr yn yr ail hanner.

Wedyn trechodd Tîm Pêl-droed Merched Prydain Cameroon 3-0 wrth i'r capten Casey Stoney, Jill Scott a Stephanie Houghton rwydo.

Bydd Prydain yn wynebu Brasil ddydd Mawrth.

Chwe gêm

Curodd Merched Prydain Seland Newydd 1-0 yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Bydd chwe gêm bêl droed arall yn y stadiwm yn ystod y Gemau Olympaidd, gan gynnwys yr un rhwng Tîm Pêl-droed Dynion Prydain ac Uruguay.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.