Damwain: Dyn yr ysbyty

Mae dyn yn ei ugeiniau yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, gydag anaf i'w goes ar ôl damwain beic dŵr.

Roedd gwrthdrawiad brynhawn Sadwrn ar Draeth Bychan rhwng Benllech a Moelfre ar Ynys Môn.

Bachgen 13 oed oedd yn gyrru'r beic dŵr arall.

Chafodd e ddim ei anafu ond dywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi nad oedd wedi cael hyfforddiant addas.