Medal arian i Lizzie Armitstead

Lizzie Armitstead Image copyright Getty Images
Image caption Medal arian Lizzie Armitstead yw medal gyntaf Prydain yn y Gemau

Mae cyd-aelod Nicole Cooke, Lizzie Armitstead, wedi ennill medal arian yn ras seiclo menywod y Gemau Olympaidd.

Y pedair yn y tîm oedd Lizzie Armitstead, Nicole Cooke, Lucy Martin ac Emma Pooley.

Marianne Vos o'r Iseldiroedd oedd yn gynta' gyda amser o 3 awr, 25 munud a 29 eiliad ac Olga Zabelinskaya o Rwsia gafodd y fedal efydd.

Gorffennodd Cooke, o'r Wig ym Mro Morgannwg, yn 31 mewn amser o 3 awr 36 munud ac 01 eiliad.

"Mae wedi bod yn brofiad gwych," meddai Cooke wedi'r ras ddydd Sul.

'Arbennig'

"Fe ddaethon ni yma gyda chyfle gwirioneddol i ennill medal ac fe wnaethon ni hynny.

"Roedd Lizzie yn arbennig. Roedden ni'n gefn iddi ond doedd dim ein hangen ni erbyn y diwedd."

Dechreuodd y ras 140 o gilomedrau am hanner dydd ar Y Mall. Daeth i ben am 3.35pm.

Roedd y 66 o seiclwyr yn croesi Afon Tafwys cyn mynd trwy Richmond Park, Bushy Park a heibio Palas Hampton Court.

'Aberthu'

Wedyn fe wnaethon nhw rasio drwy Leatherhead, Esher, Kingston-upon-Thames a Richmond Park cyn cyrraedd yn ôl i'r Mall.

Roedd Cooke wedi dweud taw'r tîm oedd yn dod yn gynta'.

Yn 2008 yn Beijing y Gymraes 29 oed oedd yr athletwr cynta' o Gymru i ennill medal aur ers 36 o flynyddoedd.

"Fe fydd pob aelod yn helpu ei gilydd... fe fydd cyfnodau yn ystod y ras pan fydda i'n 'aberthu' er mwyn helpu aelod arall, meddai cyn cychwyn y ras.

"Rwy'n disgwyl i aelodau eraill wneud yr un peth. Mae hyn yn hanfodol yn ystod ras."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC