Y trydydd diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd

Dydd Llun mae 'na ddau Gymro yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

RHWYFO:

Roedd y Cymro o Wrecsam Tom James yn cystadlu yn Eton Dorney am 10.40am yn un o'r pedwar yn y ras i ddynion. Fe wnaeth y tîm ennill eu rhagbrawf gydag amser o 5 munud 50.27 eiliad. Ond fe wnaeth eu prif wrthwynebwyr, Awstralia, lwyddo i ennill eu rhagbrawf nhw mewn amser o 5 munud a 47.06 eiliad. Fe fyddan nhw'n cystadlu nesa' yn y rownd gynderfynol ddydd Iau.

BOCSIO:

Mae Andrew Selby o'r Barri wedi mynd drwodd heb gystadlu i rownd yr 16 olaf yn y Pwysau plu 52kg. Fe fydd yn cystadlu am y tro cyntaf nos Wener.

Hefyd ar y BBC