James yn benderfynol o gael aur

Tom James (centre) Image copyright The King's School
Image caption Tom James (canol) yn rhwyfo gyda'r Cymro Chris Bartley (yn y blaen) i ysgol King's School yn 2000

Mae hyfforddwr a fu'n gymorth i'r rhwyfwr Tom James yn dweud y bydd penderfyniad y Cymro yn ei helpu i oresgyn trafferthion iechyd diweddar.

Mae James o Wrecsam, sydd wedi cael triniaeth a, gyflwr ar ei galon, yn rhan o garfan y pedwar heb lywiwr fydd yn dechrau ceisio amddiffyn eu coron Olympaidd ddydd Llun.

Dywedodd Duncan Little, a fu'n hyfforddi James yn yr ysgol yng Nghaer, bod gan y rhwyfwr gymeriad cryf iawn erioed.

"Mae e'n enillydd," meddai Little, a fydd yn gwylio'r rowndiau rhagbrofol ar y teledu.

Os fydd yn llwyddiannus, James fydd y Cymro cyntaf i ennill medal aur mewn dau Olympiad ers i Richard Meade ennill ar ei geffyl yn 1968 a 1972.

Image copyright Getty Images
Image caption Tom James fyddai'r Cymro cyntaf i ennill medal aur mewn dau Olympiad ers 1972

Roedd Nicole Cooke wedi gobeithio gwneud hynny ddydd Sul, ond Lizzie Armitstead arweiniodd y tîm seiclo gan gipio medal arian i Brydain.

Yn gynharach eleni, datgelodd James ei fod yn diodde' o gyflwr ar ei galon oedd yn achosi curiad anghyson. Byddai ei galon yn gallu curo 220 gwaith y funud ar adegau, ond fe ddaeth i'r amlwg nad yw'n gyflwr prin ymysg pobl o dan 30 oed.

Ond fe brofodd ei ffitrwydd i gael ei gynnwys yn y garfan Olympaidd er iddo orfod gorffwys ddydd Mercher diwethaf pan ddaeth y cyflwr i'r amlwg unwaith eto.

Bu James yn cystadlu yn Athen yn 2004 fel aelod o griw wyth Prydain, ac ef bellach yw un o aelodau mwyaf profiadol y garfan rhwyfo.

Dydd Llun mae 'na ddau Gymro yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

RHWYFO:

Bydd Tom James yn cystadlu yn Eton Dorney am 10.40am yn un o'r pedwar heb lywiwr.

BOCSIO:

Bydd Andrew Selby o'r Barri yn cystadlu yn y Pwysau plu 52kg yng Nghanolfan Excel am 1.30pm a 8.30pm.

Straeon perthnasol