Cyngor Sir y Fflint yn atal pedwar o'u gwaith

Mae pedwar o weithwyr Cyngor Sir y Fflint wedi cael eu hatal o'u gwaith wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i anghysonderau ariannol a gweithredol posib.

Roedd y pedwar yn gweithio i'r adran Gwasanaethau Stryd, sy'n gyfrifol am gasglu gwastraff, glanhau'r strydoedd a thorri gwair.

Cadarnhaodd y prif weithredwr Colin Everett fod Heddlu Gogledd Cymru wedi cael gwybod am y sefyllfa.

Dywedodd fod 'na drefniadau mewn lle i sicrhau "fod gwasanaethau'n parhau tan fod yr ymchwiliad ar ben".

Does neb wedi ei arestio a dyw'r heddlu ddim wedi gwneud unrhyw sylw ar y mater hyd yma.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.