Poeni am ddynes 'fregus' sydd ar goll

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddynes o Lannau Mersi ddiflannu tra ar ddiwrnod allan gyda'i theulu yn Nhowyn, Conwy.

Cafodd Stacey Lewis, 19 oed o Benbedw, ei gweld ddiwetha' yn Nhir Prins am 4:30pm brynhawn dydd Sadwrn.

Roedd hi fod i gwrdd â'i theulu er mwyn cychwyn am adre' ond wnaeth hi ddim ymddangos.

Mae'n 5 troedfedd 6 modfedd o daldra, o faint canolig a dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod ei gwallt tywyll wedi'i glymu'n ôl ddydd Sadwrn a'i bod yn gwisgo top llwyd ac oren pan ddiflannodd.

Mae'r heddlu wedi ei disgrifio fel merch 'fregus' gan fod ganddi anableddau dysgu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sydd wedi gweld Stacey ers dydd Sadwrn, gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.