Llywodraeth Cymru am ymyrryd wedi adroddiad damniol

Wedi adroddiad damniol o wasanaethau addysg Ynys Môn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ymyrryd i wella'r sefyllfa.

Yn ôl Estyn, y gwasanaeth sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion, mae gwasanaethau addysg Cyngor Sir Ynys Môn yn "anfoddhaol".

Roedd Estyn, yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y ffordd mae'r cyngor yn darparu gwasanaethau addysgiadol.

Dydd Mawrth cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, y bydd Bwrdd Adferiad yn cael ei sefydlu o fewn y cyngor.

Mae adroddiad Estyn o'r farn fod safonau yn is na'r disgwyl ym mhob rhan o'r gwasanaeth addysg; presenoldeb disgyblion yr ysgolion uwchradd yn is na'r hyn ddylai fod, ac yn fwy damniol fyth yw'r gred nad oes gan y cyngor yr ewyllys i osod eu tŷ eu hunain mewn trefn.

'Annerbyniol'

"Mae hwn yn adroddiad hynod ddamniol - does dim dwywaith am hynny," meddai Mr Andrews.

"Mae'r gwasanaeth addysg yn yr awdurdod mewn sefyllfa annerbyniol ac mae angen gweithredu ar fyrder i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.

"Erbyn hyn, mae'n swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chomisiynwyr Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod ateb priodol a phendant yn ei le cyn gynted ag y bo modd."

Dywed Estyn fod angen cynllunio mwy effeithiol a chydweithio ymysg swyddogion proffesiynol yr awdurdod, i leihau nifer y disgyblion sy'n chwarae triwant.

Mae 'na ormod o leoedd gwag yn ysgolion y sir ac mae angen gweithredu ar frys i daclo hyn, yn ôl yr adroddiad.

Mae'r lleoedd gwag yn yr ysgolion cynradd, medd yr adroddiad, wedi codi 500 ers 2005 ac yn debyg o godi eto erbyn 2016 - sy'n gosod Ynys Môn yn ail yn y tabl o ysgolion cynradd Cymreig o ran lleoedd gwag.

Barn yr arolygwyr yw bod y cyngor wedi bod yn llawer rhy araf wrth ymateb i'r sefyllfa.

Yn y sector uwchradd, mae nifer y lleoedd gwag eto wedi cynyddu dros 500 ac yn debyg o godi eto erbyn 2016.

Mae Ynys Môn, felly, yn bumed yn nhabl ysgolion uwchradd Cymreig.

Mae pump o Gomisiynwyr wedi eu penodi gan Lywodraeth Cymru i reoli'r cyngor ac mae'r adroddiad yn feirniadol o'r hyn maen nhw'n ei alw yn ddiffyg mynd i'r afael â gwraidd y drwg a'r arafwch i ymyrryd â defnyddio eu pwerau llawn.

Cefnogaeth

Mae 'na feirniadaeth hefyd o reolaeth ganolog gan hawlio na fu gweithredu ddigon prydlon.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi addo gwneud popeth y gall i wella gwasanaethau addysg.

Dywedodd Prif Weithredwr y cyngor, Richard Parry Jones eu bod yn "cefnogi'n llawn yr argymhellion yn adroddiad Estyn".

"Maen nhw'n cyd-fynd â'r meysydd sydd eisoes wedi eu nodi gan y gwasanaeth addysg fel rhai sy'n allweddol i wella ansawdd gwasanaethau addysg y sir.

"Rydym yn cydnabod yr angen i gyflymu'r gwaith gwella ac rydym yn hyderus ein bod eisoes yn gwneud cynnydd da.

"Mae cynllun gweithredu cadarn wedi ei ddrafftio ac fe gaiff ei gyflwyno i'r cyngor i roi sylw i bob un o'r saith argymhelliad, gan gynnwys gweithio gydag ysgolion i godi safonau ym mhob cyfnod allweddol, rhoi sylw i fater cynhennus y lleoedd gweigion, gwella cynllunio busnes ac ariannol a rhannu gwybodaeth yn well gydag ysgolion, llywodraethwyr ac aelodau'r awdurdod lleol.

"Rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod arwyddion cynnar o welliannau a wnaed mewn sawl maes ond rydym yn derbyn bod y rhain angen amser i ddatblygu a dangos eu heffaith ar ddysgwyr.

"Bydd asesiad a chanlyniadau academaidd eleni yn allweddol o ran dangos faint o gynnydd a wnaed."