Llanymddyfri: Dyledion o tua £4m

Coleg Llanymddyfri
Image caption Cafodd y coleg ei sefydlu yn 1847 ac mae'n un o brif gyflogwyr yr ardal

Fe all BBC Cymru ddatgelu fod dyledion Coleg Llanymddyfri tua £4 miliwn.

Dywedodd y diddymwyr Grant Thornton nad oedd yn debygol y byddai unrhyw gredydwyr - ar wahân i'r banciau a Thollau ei Mawrhydi - yn cael unrhyw arian yn ei ôl.

Pan ddaeth y stori i'r amlwg ddiwedd Mehefin y gred oedd bod dyledion y coleg tua £2.2 miliwn.

Ddydd Mercher daeth tua 20 o gredydwyr i gyfarfod yn y dref.

Dywedodd warden y Coleg, Guy Ayling, y byddai cwmni newydd Coleg Llanymddyfri (Cymru) yn rheoli'r coleg o ddydd Gwener ymlaen.

Clywodd y staff y byddan nhw'n cael cytundeb newydd ac mae hyn yn golygu y gallan nhw hawlio tâl diswyddo o'r wladwriaeth gan nad ydyn nhw wedi derbyn cyflog ers mis Mehefin.

Cafodd y coleg ei sefydlu yn 1847.

Ymhlith cyn-athrawon a chyn-ddisgyblion mae'r hyfforddwr a'r chwaraewyr rygbi Carwyn James a'r chwaraewr rhyngwladol George North.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.