Gwahardd pêl-droediwr am Drydar

Daniel Thomas Image copyright Port Talbot FC
Image caption Mae Daniel Thomas a'r clwb wedi ymddiheuro

Mae un o bêl-droedwyr Uwchgynghrair Cymru wedi cael ei wahardd wedi i neges gael ei hanfon ar wefan Trydar at y deifiwr Olympaidd Tom Daley.

Cadarnhaodd Clwb Port Talbot y byddai Daniel Thomas yn destun ymchwiliad mewnol.

Wedi i Daley a'i bartner Pete Waterfield orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth i barau ddydd Llun, roedd adroddiadau fod neges homoffobaidd wedi ei hanfon at dudalen Trydar Daley o gyfrif Daniel Thomas.

Mae'r neges bellach wedi cael ei dileu.

Nid hwn yw'r un digwyddiad lle cafodd llanc 17 oed rybudd gan yr heddlu yn gynharach yn yr wythnos.

Mae swyddogion Port Talbot wedi dweud bod rhywun wedi chwarae tric ar Thomas wedi iddo adael ei ffôn rywle ond maen nhw wedi cadarnhau bod y chwaraewr wedi ei wahardd wrth iddyn nhw gynnal yr ymchwiliad.

Ymddiheuro

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Fe ddaeth i'n sylw bod neges sarhaus wedi ymddangos ar gyfrif Twitter un o'n chwaraewyr.

"Wedi siarad gyda'r chwaraewr dan sylw, rydym yn credu ei fod, yn anffodus, wedi gadael ei ffôn heb neb i ofalu amdano, a bod rhywun wedi chwarae tric arno."

Ychwanegodd y clwb eu bod nhw a Thomas wedi ymddiheuro'n ddiamod ac nad oedden nhw'n cytuno â safbwyntiau'r neges mewn unrhyw ffordd.

Dywedodd y clwb hefyd y bydden nhw'n siarad gyda phob un o chwaraewyr y clwb am y defnydd o wefannau cymdeithasol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n briodol yn y dyfodol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.