Ad-drefnu addysg: Dim adolygiad barnwrol

Ysgol Pantycelyn Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y bwriad yw cau Ysgol Pantycelyn a sefydlu ysgol newydd yn Ffairfach

Mae rhieni sy'n ymgyrchu yn erbyn cynllun i uno dwy ysgol wedi colli eu hapêl am adolygiad barnwrol o benderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin.

Bwriad y sir yw uno Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, ac Ysgol Tregib, Llandeilo. a chodi ysgol newydd yn Ffairfach, ger Llandeilo.

Grŵp ymgyrchu yn cynrychioli rhai o rieni Ysgol Pantycelyn oedd wedi gwneud y cais am adolygiad barnwrol.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Caerfyrddin, Mark James, ei fod yn croesawu penderfyniad y Llys Apêl.

"Byddwn ni'n rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynllun er mwyn i ni allu fwrw 'mlaen ag adeiladu ysgol newydd."

Mae Cyngor Tref Llanymddyfri a nifer o rieni yn anhapus gyda'r lleoliad newydd, safle sy'n 15 milltir o Lanymddyfri.

Mae'n rhan o gynllun ad-drefnu ehangach gan y cyngor ar gyfer ysgolion dwyrain y sir.

Mae'r cyngor wedi sicrhau cyllideb o £23.7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i godi ysgol newydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.