Hofrennydd yn achub dau ym Mhenrhyn Gŵyr

Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty gan hofrennydd wedi iddynt gael eu taflu oddi ar greigiau gan dôn ger Llangennith ar Benrhyn Gŵyr.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe ond does dim gwybodaeth am eu cyflwr ar hyn o bryd.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw gan aelod o'r cyhoedd toc wedi 7pm nos Fercher.

Bu Gwylwyr y Glannau Abertawe a badau achub o Ddinbych y Pysgod a Phorth Tywyn yn chwilio am y ddau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.