Pryder effaith andwyol isbwerdy newydd ar y Gymraeg

Bydd cynllun arfaethedig i godi peilonau yn y canolbarth yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg.

Dyna y mae aelod o gabinet Cyngor Sir Powys wedi ei ddweud wrth Post Cyntaf.

Roedd tua 200 tu allan i Neuadd Maldwyn yn Y Trallwng nos Fawrth wrth i gyfarfod y cyngor a'r Grid Cenedlaethol gael ei gynnal.

Mae nifer o bobl leol yn anfodlon ar gynlluniau i godi isbwerdy yng Nghefn Coch ger Llanfair Caereinion a chael peilonau i gludo'r trydan dros y ffin.

Ond mae'r Grid Cenedlaethol wedi mynnu na fydd effaith y peilonau'n andwyol.

'Dim ystyriaeth'

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander y gallai pobl leol benderfynu symud o'r ardal oherwydd y datblygiad.

"Mi oeddwn i wedi synnu nad ydyn nhw wedi ystyried statws yr iaith Gymraeg yn ystod yr holl waith ymchwil.

"Er bod adroddiad dros 100 tudalen does dim ystyriaeth i'r iaith.

"Mae 'na bosibilrwydd y bydd llinellau pŵer uwchben toeon ysgolion Cymraeg ac os bydd hyn yn digwydd fe fydd rhieni yn penderfynu symud eu plant i ffwrdd.

"Fe fydd y cymunedau sy'n gadarnle i'r Gymraeg yn cael eu dinistrio."

Angenrheidiol

Yn ôl y Grid Cenedlaethol, mae rhwydwaith o beilonau a cheblau yn angenrheidiol i gysylltu'r orsaf bŵer i ffermydd gwynt newydd ac yna ymlaen i'r grid yn Sir Amwythig.

Roedd y brotest ddiwrnod ar ôl i'r grid gyhoeddi mai Cefn Coch oedd y lleoliad dewisol ar gyfer yr is-orsaf bŵer newydd.

Ac roedd teimladau cryf trigolion lleol yn erbyn ffermydd gwynt, yr orsaf a rhwydwaith o beilonau yn amlwg yn y cyfarfod.

Ar gyngor yr heddlu, fe gafodd y cyfarfod ei symud o neuadd y dref i bencadlys y cyngor, Neuadd Maldwyn, gan fod mwy o le ar gyfer y protestwyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.