Y Parc a'r Stadiwm Olympaidd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gobeithion y Cymry am fedalau yn y Gemau Olympaidd

2 Awst 2012 Diweddarwyd 07:51 BST

Ar ôl yr holl ddyfalu pryd y byddai Tîm Prydain yn ennill ei medal aur gyntaf yn y Gemau Olympaidd fe ddaeth dwy ddydd Mercher.

Ond mae Cymru yn dal i aros am ei medal gyntaf.

Mae'n bosib y gwelwn ni lwyddiant ddydd Iau wrth i Chris Bartley o Wrecsam rwyfo yn y pedwarawd ysgafn ac mae Victoria Thornley, sy'n dod o Lanelwy, yn rhwyfo yn yr wythawd.

Mae'r seiclwr Geraint Thomas hefyd yn dechrau cystadlu ar y trac rasio.

Aled Hughes sy'n trafod y cyfan gyda'r Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru.