Trydar: Arestio pêl-droediwr

Ni lwyddodd Tom Daley a Peter Waterfield i gael medal
Image caption Ni lwyddodd Tom Daley a Peter Waterfield i gael medal

Mae pêl-droediwr wedi cael ei arestio ar ôl i neges gael ei hanfon ar wefan Trydar at y deifiwr Olympaidd Tom Daley.

Mae Daniel Thomas, 28 oed, hefyd wedi cael ei wahardd gan ei glwb.

Cadarnhaodd Clwb Port Talbot o Uwchgynghrair Cymru ddydd Mercher y byddai Mr Thomas yn destun ymchwiliad mewnol.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad ar y gweill.

Wedi i Daley a Pete Waterfield orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth i barau ddydd Llun roedd adroddiadau fod neges homoffobaidd wedi ei hanfon at dudalen Trydar Daley o gyfrif Daniel Thomas.

Mae'r neges bellach wedi cael ei dileu.

Ddydd Mercher honnodd swyddogion clwb Port Talbot fod rhywun wedi chwarae tric ar Thomas wedi iddo adael ei ffôn rywle.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.