Amgueddfa Ceredigion yn arddangos bwthyn

Y bwthyn yn Llanon
Image caption Mae bwthyn to gwellt Llanon yn nodweddiadol o'r 19eg ganrif.

Mae sawl gwrthrych gan Amgueddfa Ceredigion o dan ei gofal, ond ychydig a fyddai'n dyfalu fod enghraifft brin o fwthyn traddodiadol Ceredigion yn Llanon ymhlith y casgliad.

Mae staff Amgueddfa Ceredigion a Chymdeithas Hanes Llansantffraid wedi bod yn brysur yn paratoi'r hen fwthyn ar gyfer ymwelwyr yr haf.

Mae dod o hyd i ddodrefn a mân daclau o'r cyfnod cywir yn dasg heriol, ond mae'r canlyniadau'n cynnig cipolwg prin i'r ymwelwyr o sut roedd miloedd o bobl yn byw yng Ngheredigion yn y gorffennol.

Mae bwthyn to gwellt Llanon yn nodweddiadol o'r 19eg ganrif.

'Ysbrydoliaeth'

Fe'i hadeiladwyd â llaw gyda dwy ystafell a chroglofft uwchben.

Ei nodwedd bwysicaf yw'r rhaff barhaus o dan y gwellt, fwy na thebyg yr unig enghraifft sydd wedi goroesi o fewn y sir.

Yn hytrach na chornel simnai, mae ganddo lwfer simnai uwchben tân ar y llawr.

Er y credir yn gyffredinol fod y Cymry yn byw mewn bythynnod cerrig, roedd llawer ohonynt, fel bwthyn Llanon, wedi'i adeiladu â waliau pridd.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur yr amgueddfa, fod y bwthyn hwn yn adlewyrchu cyfnod pan oedd rhaid i bobl fod yn llawer mwy hunan-hyderus a dibynnu ar adnoddau lleol yn unig.

"Mae'r bwthyn hwn wedi'i wneud o ddeunyddiau lleol, coed a ailddefnyddiwyd a changhennau heb eu torri sy'n cael eu cynnal ar hanner nenffyrch a adeiladwyd i mewn i'r waliau," meddai.

"Roedd angen amser a sgiliau i adeiladu fel hyn. Mae penseiri ac adeiladwyr modern yn dechrau edrych yn ôl ar adeiladau fel hyn i gael ysbrydoliaeth am dechnegau adeiladu fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, sy'n ei gwneud hi'n bwysicach nag erioed i'w ddiogelu."

Wedi'i leoli yn Heol Non ym mhentref Llanon, mae adfail a gardd hefyd ar safle'r bwthyn.

Diolch i Gymdeithas Hanes Llansantffraid fod y bwthyn ar agor i ymwelwyr gan eu bod yn gwirfoddoli eu hamser i sicrhau bod pobl yn cael cyfle i'w fwynhau.

Mae'n un o sawl prosiect allgymorth gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol y mae Amgueddfa Ceredigion yn ymwneud â nhw'r haf yma.

Ychwanegodd Mrs Canham: "Rydym yn awyddus i annog grwpiau lleol i ddefnyddio casgliad Amgueddfa Ceredigion ac i fwynhau eu treftadaeth.

"Mae'n dda gweld bod pobl yn cymryd balchder yn eu hanes ac yn awyddus i rannu straeon.

"Eleni rydym wedi helpu Cymdeithas Aberaeron gyda'i harddangosfa ar Blentyndod, wedi parhau i gefnogi Canolfan Treftadaeth Cei Newydd a gwirfoddolwyr brwdfrydig Amgueddfa Gorsaf Reilffordd Y Borth gyda'u harddangosfa."

Mae bwthyn Llanon ar agor rhwng 2 a 4pm o Ddydd Mawrth i Ddydd Gwener a Dydd Sul.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.