Caerdydd yn arwyddo Helguson

Heidar Helguson Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Helguson naw gôl yn yr Uwchgynghrair i QPR y tymor diwethaf

Mae'r ymosodwr o Wlad yr Iâ, Heidar Helguson, wedi ymuno gyda chlwb pêl-droed Caerdydd.

Symudodd Helguson o Queens Park Rangers am swm anhysbys ar gytundeb blwyddyn i'r brifddinas.

Sgoriodd y chwaraewr 34 oed naw o goliau yn yr Uwchgynghrair y tymor diwethaf, ac fe sgoriodd 28 o goliau mewn 80 o gemau i'r clwb o Lundain ers ymuno gyda QPR o Bolton yn 2008.

Mae bellach wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, a bydd yn gwisgo rhif 22 ar ei grys yn Stadiwm Dinas Caerdydd y tymor nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.