Arian i hybu'r iaith o fewn ein cymunedau

Logo Mentrau Iaith Cymru

Rhoi hwb i hybu'r iaith ym mhob rhan o Gymru yw bwriad cynllun newydd i bob Menter Iaith.

Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, sy'n lansio'r cynllun ddydd Llun yn Yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig grant i Mentrau Iaith Cymru i gynorthwyo gwireddu eu cynlluniau a phenodwyd Cydlynydd Cenedlaethol llawn amser, Emily Cole, i fod yn brif gyswllt rhwng y Mentrau Iaith a'r Llywodraeth.

Bydd yn trefnu hyfforddiant a chynhadledd flynyddol y Mentrau yn ogystal â threfnu cyd-farchnata gwaith y Mentrau Iaith yn genedlaethol.

Mae 'na 23 Menter Iaith yng Nghymru sy'n hyrwyddo defnydd o'r iaith o fewn cymunedau.

Gyda chymorth y grant bydd Mentrau Iaith Cymru yn trefnu hyfforddiant ar wahanol agweddau o waith y Mentrau ac yn cynnwys mesur effaith eu gwaith a darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn eu cymuned.

Swyddog newydd

Bydd hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r Mentrau am ddatblygiadau yn y maes Cynllunio Iaith a gwybodaeth am bolisïau perthnasol a ffynonellau cyllid fydd yn galluogi'r Mentrau i weithredu yn fwy effeithiol.

"Mae'r buddsoddiad yma yn ein galluogi i gefnogi gwaith pob Menter Iaith ar draws Cymru," meddai Penri Williams, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru.

"Byddwn yn cyflogi swyddog newydd i ddarparu hyfforddiant priodol i staff a gwirfoddolwyr ac i gydweithio gyda'r Llywodraeth a chyrff eraill i werthuso a mesur effaith prosiectau'r Mentrau.

"Mae Mentrau Iaith Cymru wedi bodoli ers dros ddeng mlynedd i rannu profiadau a datblygu prosiectau ar y cyd, nawr gallwn ddatblygu i alluogi pob Menter Iaith i weithio yn fwy effeithiol er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn cymunedau ar draws Cymru.

"Mae'r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn gyffrous iawn i ni."

Gwyrthiol

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg bod cryfhau safle'r Gymraeg o fewn y gymuned yn rhan bwysig o'n strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw.

"Dwi am weld mwy o gyfleoedd i bobol ddefnyddio'r Gymraeg yn gymunedol a'i hystyried yn rhan naturiol o fywyd bob dydd yng Nghymru.

"Bydd gwaith y Mentrau Iaith yn hynod o bwysig yn cyrraedd y nod yna.

"Felly rydym wedi ariannu swydd y Cydlynydd Cenedlaethol i helpu'r Mentrau gydweithio'n effeithiol - gyda'i gilydd, gyda Llywodraeth Cymru ac ym mhob cymuned ar draws Cymru."

Dywedodd Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy bod Mentrau Iaith Cymru wedi gwneud gwaith gwyrthiol gydag adnoddau prin iawn ers 1999.

"Rwyf yn falch iawn y bydd eu gwasanaethau yn ehangu eleni diolch i gyfraniad gan y Llywodraeth.

"Bydd llawer mwy o gydweithio a chyd-dynnu rhwng y Mentrau yn sgil y datblygiadau newydd yma, ac rwy'n sicr bydd yr adnoddau ychwanegol ar lefel cenedlaethol yn treiddio i lawr i gael effaith positif ar bobol yn ein cymunedau drwy waith pob Menter Iaith."